Y Deyrnged i fy Mam, â Draddodais yn y Cnebrwn.*
*heb y ‘jôcs’ spontêniys.
Gwyneth Mair Williams

Fflam cariad fu mam imi – hon giliodd
O’r golwg wrth weini,
Canodd o ganol cyni,
O! Mor hawdd ei marw hi.
William Hughes Jones
Dyna englyn fy nhaid, tad Mam, i’w fam yntau pan farwodd hi. Roedd y teulu ynghanol cynhaea ar y pryd, a doedd hi ddim am ddistyrbio’r dynion ynghanol y gwair. Felly, ar ei gwely angau galwodd ar ddau fab yn unig – yr hynaf, a’r ieuengaf, sef Dewi y gweinidog – i ddod ati hi, sbario tarfu ar waith pwysig y dynion. Ar hyd ei bywyd, un felly fu nain Mam – isio gwneud pethau’n hawdd i bawb, wastad yn meddwl am bawb arall, a hynny at y diwedd eithaf. Ac yn union felly, ar hyd ei hoes ac at y diwedd un, y bu Mam.
Mam (Gwyneth Mair)
Cyn dechrau, liciwn i ddiolch o galon am y caredigrwydd a ddangoswyd i ni fel teulu. Fel ddudodd fy nhad y noson o’r blaen, wedi iddi dawelu a’r ol i’r olaf o’r llond tŷ o ffrindiau a chymdogion adael, “rydan ni’n lwcus ein bod ni’n byw mewn cymdeithas mor dda…” …Wel, os oes yna un person yn ymgorffori’r gymdeithas yma’n berffaith, Mam ydi honno.
Mae’r cariad sydd wedi ei fynegi tuag at Mam dros y dyddiau dwytha yn destament i ddynes arbennig iawn – un a gyffyrddodd calonnau cymaint o bobl. Roedd Mam yn ddynes llawn cariad, yn gynnes, ffeind a ffyddlon, yn fywiog ac yn foesgar, yn ddiragfarn, yn gydwybodol a gonest, yn gryf ac yn graig i ni fel teulu. Roedd hi hefyd yn ferch brydferth, dlos a deniadol. Yn smart ac urddasol, yn ddwys, yn ddiwylliedig ac yn ddeallus. Cymeriad siriol, hwyliog, hapus ei byd – ac wastad yn gwenu’r wên lydan, hawddgar ac annwyl, â’i llygaid llawn dolydd gwyrddion yn dawnsio wrth eich gweld… a rhyw fymryn o’r swildod annwyl hwnnw sydd yn eich hudo tuag at rywun.
“Gwinllan a roddwyd i’m gofal yw Cymry fy ngwlad, i’w thraddodi i’m plant, ac i blant fy mhlant, yn dreftadaeth dragwyddol…”
Mae’n chwiorydd a mrawd a minnau wedi etifeddu trysor o dreftadaeth gan Mam. Mi draddododd yr etifeddiaeth hwn i ni heb bregethu. Mi roddodd o i ni trwy esiampl.
Ganwyd Mam ar lan yr afon Alwen, yn ffermdy Plas-yn-ddol ar ystad y Rhug, tu allan i Gorwen. Roedd hi’n ail blentyn, a merch gyntaf, i William Hughes Jones o Tai Mawr, Cwm Main, oedd â’i wreiddiau yng Nghwm Cynllwyd, ac Edna Janet Roberts o Clegir Mawr, Melin y Wig…. Un o bedwar o blant oedd Mam – John ei brawd mawr, a Megan a Heulwen (neu Lil i ni), ei chwiorydd iau – teulu cymharol fach o gofio bod Taid yn un o ddeuddeg o blant, a Nain – er ond yn un o bump, ei hun – â’i thad hithau, Johnny Roberts y porthmon (taid Mam) yn un o unarddeg! …Dylai teulu Mam fod wedi ennill gwobr am Fagu Dros Gymru. Mae o’n anfarth! Dwi’n siwr fod Mam yn perthyn i hanner Cymru a thri chwartar Patagonia! Fedra i fynd i nunlla heb ddod ar draws rywun sy’n perthyn i ni. Yn ddiweddar mi fu Mam a Meg i lawr yn seremoni Llyfr y Flwyddyn efo fi, ac mi oedd’na berthnasau ym mhob man yn y lle…. A Meg, ceidwad ein hachau, yn eu pwyntio nhw allan i gyd. “Hwnna, honna, hacw…” Roedd hyd yn oed un o’r beirniaid yn gyfyrthar i mi! (Wnaeth hi ddim rhoi y wobr imi chwaith!) ….
Ond yn ôl at deulu bach Plas yn Ddol. Mi ydw i’n cofio’r lle yn weddol. Hen, hen dŷ oedd â rhan ohono’n mynd yn ôl i’r canoloesoedd. Uwchben drws ffrynt y rhan ieuengaf o’r tŷ, roedd carreg efo’r flwyddyn 1789 a’r geiriau ‘Duw a Digon’ wedi eu naddu arni. Mae’r rhan hwn o’r tŷ yn dal i sefyll, ond yn wag ers bron i ddeugain mlynedd, tra bod yr hen ran wedi ei ddymchwel gan y tirfeddianwr er mwyn codi sied anferth. Y Ddôl oedd enw’r lle yn y canoloesoedd, ac mae sôn mai yma oedd cartref Dyddgu – y ferch arall ym mywyd Dafydd ap Gwilym. Led cae o’r tŷ mae’r afon Alwen, ac ar ei glannau yng Nghae Berllan, mae’n debyg, y safai’r hen blas a roddodd yr ‘plas’ yn enw Plas yn Ddol…. Doedd dim rhyfedd i Mam ymddiddori yn ei gwreiddiau a hanes – yn enwedig efo Taid yn byrlymu efo hen straeon am y teulu a chymeriadau’r fro.
“Pe dymunwn olud bydol, chwim adennydd iddo sydd…”
Er bod y meistr tir yn ei blasty, heb bryder am fod eisiau dim, llawer cyfoethocach oedd aelwydydd ei denantiaid, yn enwedig ym Mhlas yn Ddol. Aelwyd ddiwylliedig oedd hi, ac mi gafodd Mam gystal dysg arni – ac yn yr Ysgol Sul yng nghapel bach Tre’r Ddol gerllaw (lle y byddai yn priodi fy Nhad mewn blynyddoedd i ddod) – ac â gafodd mewn unrhyw ysgol. Yn sicr, mi gafodd y gwerthoedd a’r cyfoeth diwylliannol a draddododd ei rhieni iddi hi fwy o ddylanwad arni nag y cafodd addysg ffurfiol. Ym Mhlas yn Ddol y plannwyd hedyn ei chariad at farddoniaeth ac adrodd, ac at ddysgu. Roedd Taid yn gynghaneddwr medrus fyddai’n dal i sgwennu englynion ar ôl troi yn gant oed, ac mi ddysgwyd Mam i adrodd a dehongli barddoniaeth gan ei Yncyl Dewi hoff – brawd ieuengaf Taid, a’r dyn yr enwodd Mam fi ar ei ôl.
Ym Mhlas yn Ddol hefyd y gwreiddiodd ei heddychiaeth, ei chariad at gyd-ddyn. Ac yno hefyd, er nad oedd Mam yn grefyddwraig fel y cyfryw, y gwreiddiodd ei chred, a’i ffydd, yn nysgeidiaeth cariad Iesu Grist. …Ym Mhlas yn Ddol eginodd ei hymroddiad i gynnal y Pethe… ac yno y blagurodd ei chariad ac ymlyniad at Gymru a’r iaith Gymraeg…
Cyn bwysiced, fodd bynnag, oedd y plentyndod hapus a gafodd hi, John, Meg a Lil ym Mhlas yn Ddol, lle y tyfodd y pedwar plentyn yn gwlwm tynn. Nefoedd o le i blant bach oedd Plas yn Ddol a glannau’r Alwen, a’r dair chwaer fach dlos – fyddai’n torri calonnau sawl llanc ifanc mewn dyddiau i ddod – yn dal crethill mewn potiau jam, ac yn chwarae ar eu hynysoedd ar yr afon. Mam, y chwaer hynaf, oedd yn hawlio’r ynys fwyaf a phellaf o’r lan; Lil yr iengaf, oedd yn dal yr ynys leiaf ac agosaf at y lan; a Meg oedd yn meddianu’r ynys yn y canol… A’r dair yn addurno’u hynysoedd efo blodau oeddan nhw wedi’u hel o’r caeau… Lle i ddychymyg plentyn greu bydoedd! A lle i grwydro a diflannu i’r bydoedd hynny – yn llythrennol, yn achos John a Mam, a achosodd banig i’w rhieni fyddai’n chwilio amdanyn nhw ymhob man…… A’u ffendio nhw ar lannau’r Alwen gan amlaf…!
I Ysgol Gynradd Corwen aeth Mam, yn dair mlwydd oed, cyn mynychu Ysgol y Merched yn y Bala (neu Ysgol Moch Bach, fel y galwai Mam a Meg hi weithiau). Mi wnaeth hi lawar o ffrindiau da yn yr ysgol, yn enwedig Sian Llandderfel, sydd wedi aros yn ffrind agos iddi byth ers hynny. Fel merched ifanc, bu’r ddwy yn crwydro dipyn ar y sir. Fydda i’n cael eu hanas nhw gan eu cyfoedion weithia, ar fy nheithia innau, ond dwi ddim am rannu unrhyw gyfrinachau efo chi heddiw!
Ond mae yna un daith bwysig wnaeth y ddwy, a’r daith gyntaf i Traws oedd honno. I ddweud y gwir, hwyrach y dylswn inna ddiolch i Sian am y ffaith fy mod i yma o gwbwl. Achos Sian wnaeth gyflwyno Mam i hogia Traws – criw o ffrindia oedd yn cynnwys Bonso (Breian Garej) a Bynun… a rhyw foi o’r enw Ned Hendra… neu ‘Ned Bach’ fel y’i gelwid o bryd hynny…
Ond cyn i bethau ddatblygu rhwng ‘Ned Bach’ a Gwyneth Mair, daeth dyddiau’r Coleg i Mam. I’r Coleg Normal, Bangor, yr aeth hi – ac mae hynny wedi bod yn destun lot o dynnu coes gan Dad. Dim fod unrhyw beth yn bod ar y Coleg Normal, sy’n sefydliad academaidd penigamp, ond roedd yr enw yn ticlo Dad. Ac wrth gwrs, ag yntau wedi gadael byd addysg yn 14 neu bymthag oed, roedd Mam wastad yn gallu ei drympio fo pan ddeuai i ffeithiau, neu i bynciau diweddaraf y byd a’i bethau. Felly, roedd o’n licio tynnu arni, a rhoi pin bach chwareus yn ei balŵn efo geiriau fel, “A be Sgin ‘Coleg Normal’ i’w ddweud?” Deud gwir, mi ddatblygodd ‘Coleg Normal’ i fod yn un o lysenwau bach direidus Dad am Mam!
Nid dysg a chymwysterau oedd yr unig bethau enillodd Mam yn y Coleg Normal, fodd bynnag, ond ffrindiau newydd hefyd. Mi ddaeth dwy yn arbennig, yn ffrindiau agos iddi – fel dwy chwaer newydd – ac sydd, fel Sian Llandderfel, yn parhau’n ffrindiau agos hyd heddiw. Ruth a Gwyn Mor oedd y ddwy honno, a dwi’n rhyw feddwl y byswn i’n eich cadw chi yma drwy’r dydd tawn i’n adrodd hanes y Driawd Ddeinamic yma i gyd wrthach chi!!
Yn y coleg, hefyd, y daeth Mam – fel ei chwiorydd ar ei hôl – i ymwneud ag ymgyrchoedd cynnar Cymdeithas yr Iaith. Dim syndod, gan fod y Blaid a Saunders, D.J. a Valentine yn uchel iawn eu parch ym Mhlas yn Ddol. Efallai hefyd fod Nain yn cario ysbryd y Rebal yn ei gwaed, gan fod ei thaid – hen daid Mam – Edward Roberts Clegir Mawr (a elwid yn Ted Unllygeidiog, wedi iddo golli’r llygad arall ar ôl cael cic gan geffyl yn Lerpwl), oedd un o arweinwyr amlycaf Rhyfel y Degwm yn ardal Llangwm!
Ta waeth, mi fu’r Driawd Ddeinamig, Mam, Ruth a Gwyn Mor, yn ymgyrchwyr brwd dros y Gymraeg, ac mi oedd Mam yn un o’r criw aeth ar y bws o Fangor i brotest cyntaf Cymdeithas yr Iaith ar Bont Trefechan yn Aberystwyth. Roedd hi hefyd yn helpu lot yng Ngwersyll yr Urdd yng Nglanllyn yn y cyfnod yma, a fyddai hi ddim yn beth anghyffredin i’w gweld hi a Ruth yn bodio lifft yn ôl am Fangor o’r gwersyll ar fore dydd Llun…
Mi barhaodd y cydwybod cenedlaethol yn gryf yn Mam trwy gydol ei hoes. Fel silffoedd llyfrau Taid gynt, roedd silffoedd Mam yn llawn o weithiau mawr y Gymraeg – ysgrifau gwleidyddol, hanes, nofelau Islwyn Ffowc ac eraill, a llu o gyfrolau barddoniaeth ein beirdd.
Ac mi roddai Mam y cydwybod hwn ar waith, hefyd. Dwi’n cofio, pan o’n i’n blentyn, iddi hi a Myfanwy Pandy ymuno â phwyllgor carnifal Traws a mynd ati i’w Gymreigio, gan ddal eu tir yn gadarn wrth herio’r hen drefn, a mynnu y dylid defnyddio’r iaith Gymraeg. A phan ddaeth Jiwbili’r Frenhinas yn 1977, mi wrthododd Mam ganiatad i’r ysgol roi y mygiau a darnau arian ‘swfenir’ Jiwbili i ni. Ac yn fwy na hynny, er mwyn anwybyddu’r partîon stryd, mi aeth Mam â ni’r plant (Manon, Rhys a finna, achos doedd Mel heb landio eto!) i ffwrdd ar wyliau i Gaerfyrddin, lle’r oedd John ei brawd yn weinidog ar y pryd. Tra yno, ar ddiwrnod y sbloets frenhinol, aethon ni i Ddinbych y Pysgod am y dydd, a chroesi ar y gwch i Ynys Bur, lle’r aeth Rhys a minna, efo John, i mewn i’r mynachlog (dim ond hogia gâi fynd i mewn) i wylio’r mynachod mud yn byta mewn tawelwch…
Mi oedd cariad Mam at y Gymraeg, ac at draddodi’r etifeddiaeth i’r cenhedlaethau i ddod, yn amlwg yn ei gwaith fel athrawes hefyd. Ar ôl graddio, mi gafodd y dair ffrind agos, Ruth, Gwyn Mor a Mam, waith mewn ysgolion yn yr Wyddgrug, ble bu’r dair yn rhannu tŷ. Yn Ysgol Llanfynydd oedd Mam yn dysgu, ond, er ei bod wrth ei bodd efo’i gwaith, fuodd hi ddim yno’n hir, achos roedd hi’n canlyn yn selog efo Nhad erbyn hynny, ac mi benderfynodd y ddau briodi – a hynny ar frys, achos roedd Dad isio priodi cyn y ‘tymor ŵyna’!
Ond ar ôl bron i 30 mlynedd o fod yn wraig ffarm hapus a phrysur, mi gafodd Mam gyfle i fynd yn ôl i ddysgu, gan weithio fel athrawes ‘supply,’ yn llenwi bylchau mewn amryw o ysgolion, gan fwynhau ei gwaith ac ennill ffrindiau newydd – a lot fawr o barch hefyd. Dros y dyddiau dwytha, dwi wedi derbyn sawl neges gan rieni oedd â phlant yn ysgolion Dolgellau a Llanelltyd, yn sôn am pa mor ffeind oedd hi efo’r plant, a’r amynedd a charedigrwydd a ddangosai at blant oedd â phroblemau dysgu a darllen. Dwi hefyd yn nabod plant i ffrindia i mi o’r llefydd hynny, sydd wastad wedi canmol Mam a dweud mai Cymraeg oeddan nhw’n siarad efo hi er mai Saesneg oeddan nhw’n siarad adref…
Wedi cyfnod o lenwi bylchau efo’r cerrig gorau bosib, mi gafodd Mam swydd llawn amser yn Ysgol Tan y Castell, Harlech, ac mi dreuliodd sawl blwyddyn hapus yno hyd nes iddi ymddeol. Mi oedd hi’n boblogaidd iawn yno hefyd, a’i hymroddiad i hyrwyddo’r Gymraeg, a’r defnydd ohoni, yn amlwg yn y llysenw gafodd hi gan y plant – “Mrs Williams Siaradwch Gymraeg”!! Mae’r ymroddiad hwn wedi ei anfarwoli yn yr englyn a gyfansoddodd Iwan Morgan iddi ar ei hymddeoliad:-
Is y gaer y dysgai hi – yn mawrhau’r
Iaith Gymraeg a’i gloywi;
Rhoi’r iaith ar waith gyda bri,
A rhoi addysg lawn drwyddi.
Ond er ymddeol, fedrai Mam ddim gadael y maes addysg yn llwyr. Roedd hi’n dal i fynd i’r ysgolion i ddarllen efo’r plant, ac hefyd yn parhau i ddysgu plant i adrodd. Mi welis i lawar iawn o blant y pentra ’ma yn dod i’r Hendra i ddysgu adrodd ar gyfer eisteddfodau lleol a chenedlaethol.
Bu ei chyfraniad i’r Pethe yn ddiflino. Roedd hi’n ddynes gwneud, nid dweud – ac mi wnai bethau o ran dyletswydd cydwybodol i gefnogi pethau gwerth eu cefnogi, ac hefyd am ei bod hi’n mwynhau gweithgareddau diwylliannol cyn gymaint. Boed yn helpu i wneud bwyd yn y Neuadd ddiwrnod Sioe, Steddfod neu gonsart; boed yn dysgu Cymraeg i oedolion mewn dosbarthiadau yn yr Hendra erstalwm, yn mynd i ddosbarthiadau cynganeddu, yn helpu i sefydlu’r Ysgol Feithrin yn y pentra, neu’n chwarae rhan flaengar ym Merched y Wawr hyd heddiw – y ‘Pethe’ oedd ei phethe!
Rheswm arall pam ei bod yn mwynhau ei gweithgareddau gymaint, oedd y ffrindia agos a wnaeth hi yn Traws wedi iddi briodi. Roedd yna griw ohonyn nhw – Anti Glad, Bethan, Beryl, Rhian Goppa, Olwen, Greta, Maggie, Ann, Elen, Nansi, Myfanwy, Iona, Liz… mae’r rhestr yn un maith, ac ymddiheuriadau os dwi wedi anghofio rhywun… Tyfodd cyfeillgarwch cryf rhwng y criw, ac wedi iddyn nhw gyrraedd oed y ‘pas bws am ddim’ mi oeddan nhw’n mynd “on the buses” unwaith y mis, am ddiwrnod allan i rywle gwahanol, neu am bryd o fwyd efo’i gilydd…
Mi fuon nhw’n mynd i lefydd pellach o bryd i bryd hefyd – dros y dŵr i Ewrop efo Merched y Wawr, ac i’r Iwerddon, ble y treuliodd Mam a Dad eu mis mêl nôl yn 1967 (pan ddaeth Dad yn ôl efo ‘black eye’ ar ôl disgyn ar y gwch!). Mi âi Mam hefyd i Appleby Fair efo Dad, ac efo Bob a Gwen Dinas. Mi ai hefyd i Gaer – unwaith i’r rasus, ond gan fwyaf i siopa. Roedd Mam wrth ei bodd yn siopa dillad – yn enwedig am sgidia a jumpers – ac mi fysa hi’n trio bron pob dilledyn ac esgid yn y siop, yn ffansio pob un ond yn methu gwneud ei meddwl i fyny!
Mi aeth hi ar drip i Gaer unwaith, a chofio, ar ôl cyrraedd, ei bod wedi gadael i hambag wrth y cwt glo yn Hendra! A dyna i chi rwbath arall mae hi wedi ei drosglwyddo i ni’r plant – rhyw elfen fach, leiaf o chwit-chwatrwydd diniwed sy’n amlygu ei hun, rhyw fymryn lleia, bob yn hyn a hyn… Fel y diwrnod yr aeth Mam i drio ei thest dreifio. A hithau’n ddiwrnod braf, mi wisgodd sbectols haul rhag ofn i’r haul ei dallu yn ystod y test. Erbyn iddi orffen y test roedd hi wedi anghofio ei bod hi’n ei gwisgo nhw, a dyma hi’n troi at y testar ar ôl camu allan o’r car, a dweud, “Duw, it’s gone dark!”
“Maybe you should take your glasses off, Mrs Williams.”
Mi oedd Mam yn ymfalchîo mewn edrych ar ei gorau. Byddai’n gwneud ei gwallt, efo Julia yn Traws, yn ddi-ffael unwaith bob tair wythnos. Roedd Mam wastad yn brwsio ei gwallt yn ddi-baid cyn cychwyn i unrhyw le – roedd rhaid iddo fod yn berffaith. Yn yr wythnosau olaf roedd hi’n cael traffarth iwsio’r brwsh, ac mi fyddai Dad yn ei frwsio iddi – under strict directions – “fan hyn, fan yna, Ned…!” cyn bodloni. Ond unwaith fydda hi yn y car mi fyddai yn y drych yn ei dwtio, eto, efo’i llaw!
Oedd, mi oedd Mam yn ddynas smart. Dwi’n cofio pan oedd Manon a finna’n blant, a Dad a Mam yn mynd allan ar nos Sadwrn. Roedd ffrogia hir at y traed mewn ffasiwn y dyddiau hynny, debyg, achos dyna dwi’n gofio Mam yn ei wisgo i fynd allan ar wicend. I ni’n dau bach, ffrog ddawnsio oedd ffrog hir Mam, ac roedd rhaid i ni gael gafael yn ei dwylo a dawnsio mewn cylch, bob tro, cyn iddi adael y tŷ.
Ia, dynes smart a glân o hyd oedd Mam. Ond roedd hi’n weithwraig galed a phrysur hefyd – yn bwydo llond tŷ o ddynion ar adeg hel gwair, ac yn cerddad i fyny i gorlan y Gors, adeg cneifio, efo fflasgia tê a bagia’n llawn o sandwijis i ginio. Ac mi oedd hi’n fwy na pharod i faeddu’i dwylo hefyd – yn bwydo’r cŵn a’r ieir a’r chwîd, helpu efo’r ŵyna, llnau llond bag o bysgod wedi i Dad, neu ni’r hogia, fod yn y nentydd ar flaen lli. A phan fo angen mi fyddai hi hefyd yn dyfrio a swpera’r gwartheg, ac yn carthu’r beudy! Mi oedd Mam yn dipyn o Action Woman, a dweud y gwir! …..Ond wrth gwrs, mi gadwai’r tŷ fel y cadwai ei hun, yn sbotless – fel pin mewn papur – a fiw i unrhyw un onan ni gerdded i mewn heb dynnu’n sgidia budur yn y portsh.
Mi weithiodd Mam yn galed hyd y diwedd. Hyd yn oed wedi i’r salwch gyfyngu ei symudiadau, roedd hi’n dal i fynnu cario mlaen, yn golchi llestri a dillad, yn gneud bwyd a phaneidia… Pan fydda un o’nan ni’n mynnu ei bod yn gorffwys, ac yn mynnu gwneud bwyd, hŵfro, neu roi dillad ar y lein, drosti, mi fysa hi yno efo ni, yn trotian ar ein sodlau ni yr holl ffordd… Dwi’n cofio landio yn Hendra, a dyna lle’r oedd Rhys yn hwfro gwê pry cop, a Mam yn ei ddilyn o gwmpas yn dangos iddo lle oeddan nhw – a lle oedd y rhai oedd o wedi’i methu!
Doedd hi byth isio bod yn llonydd, byth isio bod yn fwrn i neb, nac ar ofyn neb, a byth, byth isio ildio i’w chlefyd. Hyd y diwedd un, roedd hi’n gosod llestri brecwast allan i Dad – a dau witabix a hannar grapefruit! Ac os oedd hi’n mynd i ffwrdd am ddiwrnod neu ddau – boed i’r ysbyty neu ar drip efo’r merchaid – mi fyddai’n paratoi plateidia o fwyd a’u cadw yn y ffrij i Dad… Meddwl am bobol eraill cyn hi ei hun, bob tro… Dyna wnai Mam i’r diwedd un!
Wnaeth Mam erioed gwyno, ac wrth ystyried y clefyd a’i tharrodd mor sydyn a chreulon, wnaeth hi erioed ofyn “pam fi?” Doedd dim chwerwedd yn perthyn iddi. Bob tro’r oeddan ni’n ei gweld hi, y cwbl oedd hi isio wybod oedd sut oeddan ni, sut oedd y plant, be oedd ein hanes ni i gyd. A’r cwbwl oedd hi isio ei wneud oedd gwneud panad, bwyd, neu rannu cacan… cacan joclet, fel arfar….! Mi oedd Mam yn cwcio cacenni fflat owt – y cacenni neisia yn y byd – ac fel y gŵyr pawb a alwodd yn yr Hendre erioed, roedd hi’n amhosib gadael y lle heb fyta un! Doedd dim dianc rhag y gacan joclet!
Mam. Dynes oedd yn llawn cariad yn cael cymaint o gariad yn ôl, heddiw. Roedd hi’n caru ni’r plant, yn dotio ar ein plant ni – deg o’nyn nhw, naw o wyrion ac un wyres fach. Roedd hi mor prowd ohonan ni i gyd – ni’n pedwar, a’i ‘phlant’ estynedig, sef ein cefndryd Owain, Gwion a Gwen, a dreuliodd gymaint o amser fel rhan o’r aelwyd. Roedd hi’n adnabod ein nodweddion, yn ymfalchio yn ein rhinweddau a llwyddianau, ac yn chwerthin yn braf ar ein querks ac arferion bach unigryw. Roedd hi’n arbennig o agos i’w merchaid, Mans a Mel, fel oedd hi i’w chwiorydd – merched y llwyth. Mi fyddai Dad wastad yn tynnu ar Mam tra’r oedd hi’n cael ei sgwrs nosweithiol ar y “Big White Telephone” efo Mans a Mel. Roedd Mam wastad yn gefn i bawb, wastad yno, wastad yn gwrando, yn ddi-ragfarn ac yn llawn goddefgarwch. Ei hymateb i unrhyw feirniadaeth o unrhyw berson fyddai, “Duw, maen nhw’n meddwl yn dda, sti.” Doedd dim gronyn o gasineb ynddi. Roedd hi’n caru pawb.
Ond ei chariad mwyaf un oedd fy Nhad – Ned Hendra. “Dyma gariad fel y moroedd.” Mi fysa hi’n ei ddilyn o drwy ddŵr a thân, ac mi fysa yntau yn gwneud yr un peth iddi hithau. Roeddan nhw fel dau dderyn bach wedi paru am byth. Wnaeth Dad ddim gadael ymyl ei gwely. Gafaelodd yn ei llaw hyd y diwedd. Pan ffarweliodd Mam â’r byd yma, roedd hi yn ei freichiau. Does dim cariad cryfach, ac mi barith hynny am byth, er eu bod nhw bellach mewn dau le gwahanol. Bu’r ddau yn byw er mwyn ei gilydd, yn gefn i’w gilydd, ac yn sicr yn gefn i ni’r plant – ac hefyd yn esiampl i ni. Roeddan nhw’n dallt ei gilydd i’r dim, a’u cariad yn disgleirio hyd y diwedd. Tra’r oedd Mam yn yr ysbyty wythnos dwytha, cyn i’r dirywiad sydyn yn ei chyflwr ei tharo, mi oedd hi’n ista ar ei gwely, yn gwenu’r un wên lydan annwyl honno, ac mi ofynnodd Dad iddi os oedd ganddi ddillad y liciai hi iddo fynd adra efo fo, i’w golchi. Y cwbwl wnaeth Mam oedd troi at y gweddill ohonan ni a chwerthin yn braf…!!
Mi ddwedodd Meg fod Mam wedi cael trysor pan gwrddodd â ’Nhad, ac ei bod hi wedi gwirioni – dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad. Roedd Mam yn ei gwynfyd yn Hendra, yn sŵn rhen Afon Prysor. Mi adeiladodd aelwyd fel yr aelwyd y magwyd hi ei hun arni. Aelwyd hapus, aelwyd Gymraeg, ddiwylliedig. Aelwyd groesawgar, gynnes, gydwybodol a hapus, wedi ei seilio ar gariad pur. Am yr etifeddiaeth hon, byddwn ddiolchgar iddi am byth, ac mi wnawn ni’n siwr y byddwn ninnau’n ei thraddodi i’n plant ninnau. Mae gwybod hynny yn rhoi nerth i ni. Serch hynny, does dim geiriau all fynegi ein colled, na maint ein cariad tuag ati. Mae’r hiraeth ar ei hôl yn drobwll emosiynnol sydd hefyd yn llawn atgofion melys fydd yn sgleinio yng ngolau’r lleuad am byth.
Prysor ac Alwen heno – gyda’r lloer
Ar eu lli, yn uno,
A hiraeth sy’n disgleirio
Yn llanw trist y llyn tro.