Tai Mawr, Clegir Mawr a Plas y Ddol

Yng Nghapel Tre’r Ddol, ger Corwen y priododd fy rhieni. Un o ardal Tre’r Ddol ydi fy mam, yn ail blentyn allan o bedwar (mab a thair merch) i William Hughes Jones ac Edna Janet Roberts. Fe’i magwyd ar fferm Plas yn Ddol, lle mae olion hen Lys Cymreig i’w gweld ar y ddol ar lannau’r afon Alwen. Saif Plas yn Ddol ar dir yr Arglwydd Newborough ar Stad y Rhug. Nid yw Tre’r Ddol yn bell o Melin y Wig, Betws Gwerfil Goch a Gwyddelwern, ac mae’r ffordd gefn o’r llefydd hynny yn pasio heb fod ymhell o Plas yn Ddol cyn ymuno â’r A5 yn syth wedi i’r ffordd honno groesi’r bont dros yr afon Alwen, ger yr hen Ffatri Laeth, yr ochr arall i’r ffordd fawr o siop a chaffi Stad y Rhug (lle mae’r 8fed Arglwydd Newborough yn cadw byffalos dŵr a’u troi yn fyrgyrs bach blasus heddiw).

Stad y Rhug sydd berchen Plas yn Ddol, a thenant i’r Arglwydd Newborough (Syr Watkin Williams Wynne) oedd fy nhaid. Cyn iddo farw yn 101 oed rhyw ddwy flynedd yn ôl, mi rannodd o sawl stori ddifyr am ei berthynas o a’i gyd-denantiaid efo’r Lord a’i fab, ag asiant y stad. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o atgofion fy nhaid, Hogyn o Gwm Main a Casglu Cwysi, gan Gwasg Carreg Gwalch, ac mae llawer o’r atgofion hynny’n son am flynyddoedd cyn Plas y Ddol, a’i fagwraeth yn un o 12 o blant Tai Mawr, Cwm Main wedi i’r teulu symud yno o Goed Ladur a Chwm Cynllwyd, ger Llanuwchllyn.

Er na chafodd goleg o fath yn y byd, nag addysg lawn ychwaith, roedd fy nhaid yn ŵr diwylliedig iawn – fel oedd gwerin tir y dyddiau hynny, yn enwedig yn ardal Penllyn. Yn ogystal â chyhoeddi ei atgofion, roedd o hefyd yn fardd. Hyd ei farw yn 101 oed roedd o’n dal i gynganeddu, gan sgwennu englynion ar bob achlysur teuluol, achlysuron cymunedol, penblwyddi, ac i bawb fyddai’n gwneud tro da ag o. Mi oedd o hefyd yn parhau i gystadlu mewn eisteddfodau lleol. Yn ŵr dwys a direidus, roedd o hefyd yn ddyn duwiol dros ben. Yn Flaenor gyda’r Annibynnwyr, doedd o ddim yn sych-dduwiol na chul o bell ffordd, ond yn Gristion o’r iawn ryw, yn gredwr a chapelwr oherwydd ffydd, yn heddychwr ac yn ddyn mwyn, llawn cariad, egwyddor ac urddas. Roedd yn llwyr-ymwrthod â chwrw – hyd yn oed tra y treuliodd ychydig flynyddoedd o’i ieuenctid yn gweithio ar fferm lefrith yn Llundain. Roedd o hefyd yn wladgarwr a chenedlaetholwr, ac yn aelod o Blaid Cymru ers sefydlu’r blaid yn 1925.

Llwyddodd fy nhaid i gynnal ei blant drwy addysg bellach, ac mi raddiodd pob un ohonyn nhw o Brifysgolion Aberystwyth a Bangor. Dilynnodd yr hynaf, fy ewyrth John, un o frodyr fy nhaid i’r weinidogaeth, ac mae’n dal i fod yn Weinidog efo’r Annibynnwyr heddiw. Fel athrawes y graddiodd fy mam, fel ei chwiorydd, a bu’n gweithio mewn ysgol gynradd (ger Corwen, os y cofiaf yn iawn) am ychydig cyn priodi. Gwraig fferm fuodd hi wedi hynny, hyd nes oedd yr olaf ohonom ni’r plant wedi gadael y nyth. Mi fu’n dysgu am dros ddeng mlynedd wedyn, yn ysgolion cynradd Dolgellau a Harlech.

Ymddeolodd fy nhaid yn y 1970au, gan brynu tŷ yn y Bala. Wedi treulio oes yn ffermio, yr unig dir oedd ganddo i’w enw oedd ei ardd. Mae Plas yn Ddol bellach yn swyddfa tu mewn i sied anferth a godwyd dros y tŷ a’r buarth.

Un annwyl, addfwyn a charedig oedd fy nain, Edna Janet Roberts, ac mae ei llygaid a’i gwên lydan, ynghyd ag ysgafnder ei hysbryd, gan fy mam. Un o bump plentyn i Jane Hughes a Johnny Roberts, Clegir Mawr, Melin y Wig oedd fy nain. Porthmon – a dipyn o dderyn – oedd ei thad, Johnny. Symudodd y teulu i Benystryd, Rhuthun, pan oedd fy nain yn blentyn. Roedd Johnny yn un o 11 plentyn, a’i dad – hen daid fy mam – oedd Edward Roberts Clegir Mawr. ‘Ted Unllygeidiog’ oedd pawb yn galw hwnnw – a hynny am mai un llygad oedd ganddo, nid oherwydd diffyg hyblygrwydd (am wn i!). Roedd Ted yn arweinydd lleol blaenllaw yn ystod Rhyfel y Degwm yn ail hanner yr 1880au, ac mae wedi ei anfarwoli mewn baled am ei gyfraniad i’r gwrthryfel hwnnw, gyda mwy nag un pennill yn son amdano.

Fydda i’n rhannu mwy o straeon difyr am deuluoedd fy nain a fy nhaid ar y blog yma yn y dyfodol. Fydda i hefyd, yn y man, yn bwrw mlaen efo cenfdir teuluol ochr fy nhad, gan ymhelaethu ar ambell stori ddifyr am ei dylwyth yntau yn nes ymlaen. Er mai bras iawn yw’r cyflwyniad uchod i gefndir fy mam, mae’n rhoi rhyw fath o flas ar ei natur. Tydi hi ddim yn fy synnu fod yr elfen gwerin tir ddiwylliedig yn ei hachau, y tueddiadau gwleidyddol gyda mwy nag un wythîen o rebeliaid, wedi creu cenedlaetholwyr (a gweithredwyr ym mhrotestiadau iaith y 60au) cyn gryfed – ac agored eu meddyliau – â fy mam a’i chwiorydd. Law yn llaw â gwladgarwch organig, amrwd a chadarn fy nhad, rhoddodd Mam y sylfaen iachaf posib i ddatblygiad fy ymwybyddiaeth cymdeithasol a gwleidyddol innau.

Uchod mae llun a dynnwyd ym Mhlas yn Ddol ar Boxing Day 1969. Clocweis o’r cefn mae Meg chwaer fy mam, Mam a Manon fy chwaer, John brawd mam efo fi ar ei lin, fy nhad, Taid a Nain.

Mae'r sylwadau wedi cau.