Hendre Bryncrogwydd Caeronnydd

Dyma ‘nghynefin i. Rhyw dair milltir i lawr o fan hyn mae’r Atomfa yn Nhrawsfynydd, a rhyw dair milltir i fyny mae’r argae newydd yn Nhryweryn. Ond does dim o’r datblygiadau modern yma wedi newid dim ar y ffordd o ffermio yng Nghwm Prysor.

Dyna eiriau fy nhaid, Iorwerth Williams (William Iorwerth Williams – Ioro’r Hendra – tad fy nhad) yng nghlip agoriadol y ffilm ‘Bugail Cwm Prysor’  a ffilmiwyd yn 1967. Yn un o’r ffilmiau dogfen ‘pry-ar-y-wal’ cyntaf (os nad y cyntaf), dilynnodd y rhaglen hanner awr fy nhaid o gwmpas ei waith ar fferm Bryncelynog, Cwm Prysor am flwyddyn. Mae hi’n werth ei gweld, a dwi’n falch o ddeud fod genai gopi ar DVD.

Roedd fy nhaid yn dal i gneifio efo gwella (gwelleifia, gweill) hyd nes iddo ymddeol yn yr 1980au cynnar, ac mae un o’r darnau mwyaf trawiadol yn y ffilm yn ei ddilyn ar ddiwrnod cneifio. Fel golygfa o’r ganrif gynt, mae rhes o tua chwech neu wyth o hen gymeriadau’r cwm yn eistedd ar feinciau wrth y gorlan yn cneifio’r defaid efo gwella, ac yn sgwrsio. Yno yn cneifio hefyd mae fy nhad, yn ŵr ifanc golygus a fyddai, cyn i’r ffilm gael ei darlledu, yn gweld genedigaeth ei fab cyntaf (golygus iawn!), a fy wncl Jac – gŵr Anti Gwladys chwaer fy nhad – a fu farw’n sydyn ddeufis yn ôl.

Mae’r olygfa ddilynnol yn drawiadol iawn hefyd, ac yn drist. Maen nhw i gyd yn eistedd rownd y bwrdd yng nghegin Bryncelynog, yn sgwrsio wrth fwyta swpar ar ôl gorffan y cneifio. Yno efo fy nhaid mae John Roberts Dôl Prysor, Dei Nantbudr (un o’r cymeriadau mwyaf welodd y fro), Yncl Bob (Roberts) gŵr Anti Meri chwaer Taid a chymeriad a hanner arall, a cwpwl o hen hogia eraill, ynghyd â fy nhad ac Yncl Jac, a’r Parchedig Byron Howells – y gweinidog a fy bedyddiodd – a Nain (oedd yn pobi ei bara a chorddi ei menyn ei hun, ac yn ei werthu ym Marchnad Blaenau bob wythnos) yn torri bara iddyn nhw. Dwi’n eu cofio nhw i gyd, ond arwahan i fy nhad ac un arall, maen nhw i gyd wedi marw.

Yn Hendre Bryncrogwydd, dros yr afon o Bryncelynog, y ganwyd a magwyd fy nhaid. Yno y magwyd fy nhad hefyd, a minnau wedyn. Fel fy nhaid arall, tenant i Syr Watcyn Williams Wynne oedd Ioro’r Hendra, ond trwy gyfrwng Stad Wynnstay – oedd yn berchnogion Stad Glanllyn – yn hytrach na thrwy Stad y Rhug fel tad Mam (gweler blog blaenorol). Hendre Bryncrogwydd Caeronnydd oedd enw llawn y fferm, a dyna oedd ei henw ar y papurau rhent a’r papurau gwerthiant pan brynodd fy nhaid hi yn y 1960au wedi i’r stad fynd i drafferthion ariannol. Tydan ni ddim yn gwybod o le daeth yr enw Caeronnydd, ond daw Bryncrogwydd o enw hen dŷ fferm yr Hendre sy’n sefyll bedwar can llath i fyny’r cwm. Murddun ydi Bryncrogwydd ers yr 1860au, pryd oedd hi’n rhatach i’r stad godi tŷ arall yn hytrach nag ei atgyweirio. Codwyd y tŷ newydd ar ben y bryn, ac fe’i galwyd yn Hendre Bryncrogwydd ar y mapiau a’r Cyfrifiad – ond Hendre Bryncrogwydd Caeronnydd ar y dogfennau rhent.

Tua diwedd y 1950au, pan oedd fy nain, fy nhaid a’i dad a’i fam, a fy nhad a’i chwaer yn dal yn rhentu’r Hendre, mi fu chydig o anghydfod rhwng tenant Bryncelynog â’r stad, ac mi symudodd y tenant allan. Mi fachodd fy nhaid ar y cyfla i gipio tenantiaeth Bryncelynog, ac yn fuan wedyn mi symudodd fy nhaid a nain a nhad a’i chwaer yno i fyw. Cyn hir mi briododd Anti Gwladys chwaer Dad a symud i fyw i’r Hendre. Pan briododd fy nhad a fy mam, mi symudon nhw i’r Hendre a symudodd Anti Gwladys ac Yncl Jac i’r Stesion yn Traws. Mae fy rhieni yn dal i fyw yn yr Hendre hyd heddiw, a fi a mrawd a dwy chwaer ydi’r pedwerydd cenhedlaeth i fyw yno, a’r trydydd cenhedlaeth i gael eu magu yno.

Fy hen daid a nain oedd y cyntaf o fy nghyndeidiau i fyw yn Hendre Bryncrogwydd, felly. Ac mae’r stori am sut y digwyddodd hynny yn un ddifyr, dramatig, trist a hapus. Ond y teulu cyntaf i fyw yn nhŷ newydd yr Hendre – y rhai a symudodd yno o Fryncrogwydd – oedd Edward a Margaret Thomas a’u plant, oedd, er nad yn gyndeidiau, yn berthnasau agos. Mi ddof at stori fy hen nain a thaid yn y blog nesaf, ond am rwan, mi adroddaf stori ddifyr sy’n clymu’r Thomasiaid efo teulu a fyddai, o fewn hanner cenhedlaeth, yn dod yn gyndeidiau imi.

Yn 1864, roedd Edward Thomas yn sefyll tu allan tŷ Bryncrogwydd pan fu’n dyst i lofruddiaeth a ddigwyddodd tua 150 llath oddi wrtho, wrth ffermdy Dolhaidd, ar ochr arall y nant. Mae’r cuttings papur newydd gennyf, ac ynddynt mae Edward Thomas – fel tyst yn y llys – yn adrodd fel y gwelodd ddau frawd Dolhaidd yn cwffio mewn ffos, ac un yn gweiddi am ei fywyd, ac fel y bu iddo fynd i drio helpu’r brawd oedd wedi ei glwyfo yn angeuol yn y ffeit.

Roedd y ddau frawd yn byw gyda’u gwragedd mewn dau hanner y tŷ yn Nolhaidd, ac yn ddau o naw o blant Rolant Williams (Rolant y Gors). Roeddan nhw o hyd yn cwffio. Does wybod be oedd asgwrn y gynnen y diwrnod hwn, ond mi gafodd William Rowlands (61) ei drywanu yn ei wddw gan ei frawd John (53), a bu farw o fewn munudau. Mi ysgrifennaf am yr achos mewn mwy o fanylder yma eto, ond am rwan mi ddweda i wrthych chi mai fy hen hen hen hen daid oedd Rolant y Gors, tad y ddau, ac mai fy hen hen hen daid oedd William Rowlands. Do yn wir, mi lofruddiwyd hen hen daid fy nhad gan hen hen ewythr fy nhad!

Ta waeth am hynny, ychydig â wyddai Edward Thomas ar y pryd y byddai ei deulu (wel teulu ei wraig, Margaret) yn priodi â disgynydd William Rowlands, y gŵr a fu farw yn ei freichiau y diwrnod hwnnw. A gyda’r tro sydyn hynny, byddai Teulu’r Hendre – fy nhylwyth i – yn dod i fodolaeth.

Llun uchod: cneifio ym Mryncelynog – chwith i’r dde, Yncyl Jac, Taid, fy Nhad

Mae'r sylwadau wedi cau.